Li a Coire Dhorrcail

Mae ailwylltio ar benrhyn Knoydart yn adfer y goedwig frodorol, cân adar a llu o rywogaethau eraill

Li a Coire Dhorrcail

Prynodd Ymddiriedolaeth John Muir 3,000 erw o dir ar benrhyn anghysbell Knoydart 30 o flynyddoedd yn ôl.

Roedd Knoydrt wedi dioddef yn yr un ffordd ag yr oedd cymaint o weddill yr Alban. Roedd hyn yn cynnwys dadgoedwgio, clirio’r boblogaeth ddynol yn y 1850a, ffermio defaid ar raddfa fawr a phori caled gan geirw. Yn 1987 roedd rhan fwyaf o’r tir yn llwm, wedi cael ei bori’n noeth gan ddefaid yn y lle cyntaf ac wedyn poblogaethau uchel o geirw.

Roedd diffyg fffynhonellau o hadau gan fod cyn lleied o goed fel y roedd rhaid i’r Ymddiriedolaeth blannu miloedd o goed drwy law. Cafodd Bedwen yr Alban, y Fedwen, y Ferywen, y Gollen, Y Griafolen, yr Onnen a’r Dderwen ymhlith y rhain.

Codon nhw ffens o gwmpas y coed i’w diogelu i gychwyn. Ond yr uchelgais bob tro oedd creu coetir a fyddai’n adfywio’n naturiol lle byddai ceirw yn cael rhyngwiethio â’r cynefin oedd ei angen arnynt.

Erbyn heddiw mae’r coed a blannwyd yn uwch na thaldra dyn. Mae’r gwyntoedd wedi chwythu a’r adar a’r anifeiliaid wedi gwasgaru eu hadau ac ehangu maint y coetir.

Mae’r Ymddiriedolaeth wedi cael tynnu rhywfaint o’r ffens i adael y ceirw i mewn. O gadw niferoedd y ceirw ar lefel y mae’r tir yn gallu ei chynnal, mae’r coed yn cael adgynhyrchu.

Mae bywyd gwyllt oedd wedi diflannu ers degawdau yn dod yn ôl. Mae hyn yn cynnwys Bele’r Coed, ewigod, ystlumod, pryfed a llu o adar. Ar raddfa fach yw hi ond dyma wir ailwylltio.

← Glenlude     Coed am Oes →

Back to projects