Creag Meagaidh

Mae adferiad ar radfa fawr yn yr Alban yn profi bod lleihau nifer y ceirw yn gallu cael canlyniadau trawiadol.

Creag Meagaidh

Mae Gwarchodfa Natur GenedlaetholCreag Meagaidh dros 4,000 hectar yn ne Monadhliath, sydd i’r gogledd o Loch Laggan yn yr Alban. Dyna un o’r llefydd cyntaf yn yr Alban i ymgymryd â gwrthdroi canrifoedd o ddirywio tir o ddifri. Y nôd oedd galluogi adfywiad coetiroedd a choedwigoedd drwy leihau nifer y ceirw heb blannu coed newydd.

Roedd ffermio defaid ar raddfa fawr a niferoedd uchel o geirw wedi dinistrio Creag Meagaidh. Doedd coed ddim yn tyfu yma. Yn lle coed gwelid olion coed ceinciog a throellog oedd ar fin marw a chriafolennau a merywennau yr un faint â bonsai wedi’u gwasgaru hyd fryniau moel. Roedd yr ardal yr adeg yna dan fygythiad gan blanhigfa byrwydden Sitka fasnachol enfawr. Yn dilyn ymgyrch gyhoeddus frwd i atal hon, daeth Creag Meagaidh dan berchnogaeth gyhoeddus.

Cafwyd llawer o feirniadaeth a gwrthwynebiad cas i’r prosiect ailwylltio a berchnogwyd gan y wlad a hynny gan ystadau hela gerllaw. Doedden nhw ddim eisiau gweld difa ceirw gan eu bod yn awyddus i gynnal niferoedd mawr ar gyfer saethu fel difyrrwch. Llwyddodd y prosiect oherwydd nerth a phenderfyniad y diweddar Dick Balharry, y cadwriaethwr a arweiniodd y prosiect.

Roedd yn lwyddiant ysgubol. Mae coed yno erbyn hyn yn adfywio’n naturiol dros lawer o Creag Meagaidh ac yn ymestyn i fyny’r mynydd. Rhyfeddol yw cerdded drwy’r coetir sy’n tyfu a chlywed cân yr adar ar y ffordd i wynebgraig dramatig Coire Ardair. Ac mae hyn oll yn ddiolch i ymagwedd newydd radical a gymwerwyd 30 o flynyddoedd yn ôl.

← Ymddiriedolaeth Gwely y Môr Cymuned Arran (COAST)     Glenlude →

Back to projects