Abernethy

Mae’r Gymdeithas Frenhinol er gwarchod adar yn adfer ac yn ehangu un o goedwigoedd pinwydd mwya Prydain gan greu hafan sy’n gyfoethoca fyth ar gyfer bywyd gwyllt.

Abernethy

Mae Abernethy yn warchodfa natur maint 12,000 hectar a saiff o fewn Parc Cenedlaethol y Cairngorms yn yr Alban. Mae’r Gymdeitas Frenhinol er gwarchod adar yn rheoli rhan fwya o’r warchodfa tra bod Treftadaeth Genedlaethol yr Alban yn yn gofalu am ran ohoni. Mae Abernethy yn safle bwysig ar gyfer coed pinwydd hynafol Caledonian yn ogystal â rhywogaethau fel y capercaillie a’r titw gribog.

Fel y rhan fwyaf o goed brodorol yr Alban, mae Abernethy wedi dioddef gan ddadgoedwigo dros y canrifoedd. Roedd pori gan ddefaid a cheirw yn atal coed newydd rhag dyfu. Mae blociau o blanhigfeydd coniffer wedi cael eu hau mewn ardaloedd bu coetiroedd brodorol gynt.

Mae gyda’r Gymdeithas Frenhinol er gwarchod adar weledigaeth 200 blwydd oed i ail-strwythuro coedwigoedd y planhigfeydd yn hen Goedwig Caledonian sy’n fwy naturiol. Tybir bod 3,500 hectar yn Abernethy a fyddai’n gallu cynnal rhywfaint o orchudd coed. Mae gwaith ar droed i ehangu’r goedwig a chreu tirwedd coediog agored gydag ardaloedd o wernydd, glaswelltir, creigiau, sgri a choetiroedd gorslyd.

Y nod yw cyflawni hyn heb ffensio, felly mae rhaid cadw nifer y ceirw ar lefel y gall y tir eu cynnal. Llosgir ardaloedd o rug yn ymyl y goeddwig, Dengys arbrofion bod hyn yn cynnyddu nifer yr egingoed pinwydd sy’n atgynhyrchu hyd at deirgwaith yn fwy. Er mwyn i hyn weithio, rhaid fod o fewn 250 medr o riant goeden sy’n darparu hadau, hyd yn oed os mai ‘nain’ binwydd ynysig yw hi.

Mae rhywogaethau llydanddail fel y fedwen, yr aethnen, y wernen a cheiriosen yr adar – bron i gyd wedi diflannu’n llwyr o ymylon y goedwig sydd yno ar hyn o bryd. Gwenir rywfaint o ‘blannu er mwyn cyfoethogi’ o’r rhywogaethau hyn mewn ardalodd lle mae coed pinwydd yn atgynhyrchu’n naturiol.

Oherwydd bod hadau ddim ond yn medru ymwasgaru hyd at 250 medr, gall fod yn amser hir cyn y bydd y goedwig yn ymestyn at bob ardal adfer, felly y bwriad yw gwneud rhywfaint o ‘blannu arloesol.’ Rhaid felly sefydlu grwpiau ynysig o goed pinwydd a llydanddail ar y rhostir agored. Ymhen amser, nhw fydd yn ffynhonnell hadau i’r ardal o gwmpas a chyflymu lledaenu’r goedwig.

Ymhen amser, gall coed pinwydd Abernethy gysylltu â choetiroedd sy’n adfywio yn Glenfeshie i’r de, a Mar Lodge i’r ddwyrain. Byddai hyn yn creu ardal wedi’i ail-wylltio drawiadol yng nghanol yr Alban.

← Ennerdale gwyllt     Y Gwylltgoed Cambrian →

Back to projects